Privacy Notice for Children 

The practice keeps records of your name, address, date of birth, and any health problems, as well as details of your dental treatment and family. We keep this information to provide you with the best dental care. Your personal information is kept confidential and secure.

We only use your personal information to provide the best dental care and send you reminders.

We only pass your personal information to another dentist, doctor, or hospital if you have a problem that requires their special skills and need to see them. We will not give your information to anyone else unless the law allows us to, or we need to provide it for legal reasons.

If you leave the practice, we will stop using your information, but will keep it confidential and secure until you are 25 years old (or 26 years old if you were 17 when your last treatment ended), or for[15 years after the completion of treatment, whichever is longer.

We will then review if and when we can delete it. You can always ask for a copy of the information we hold for you; we can transfer it to another dentist or doctor at your request, and you can ask us to stop using your personal information to send letters or contact you in other ways if you are no longer a patient at the practice.

[We also use CCTV (cameras) for several important reasons:

  • To keep the practice safe and protect our things
  • To make sure everyone – patients, staff, and visitors – are safe
  • To stop bad behaviour or crimes from happening
  • To help find and catch people who might have broken the law
  • To help in court if we need to show proof

The pictures and videos from the CCTV (cameras) are private. We make sure to protect everyone’s rights and won’t share them unless:

  • The local police or courts ask for them to help with an investigation or catch someone doing something wrong

When you reach 18, the Privacy Notice about how we process your personal information will change to the adult version. This can be found on our website.

If you would like a copy of the information we hold about you, or if you have any other enquiries, such as correcting an error in your information or providing a copy of your information to somebody else, please contact:

John Vaughan 
The Village Dental Practice 
 61 New Road, Skewen, Neath, SA10 6HA 
Email:  thevillagedentalpractice@gmail.com 
Phone:  01792 814734 

Feb 2026

Hysbysiad Preifatrwydd – Plant

Mae'r ddeintyddfa yn cadw cofnodion o'ch enw, cyfeiriad, dyddiad geni a manylion unrhyw broblemau iechyd. Mae hefyd yn cadw manylion eich triniaeth ddeintyddol a manylion eich teulu. Rydym yn cadw'r wybodaeth hon er mwyn rhoi'r gofal deintyddol gorau i chi. Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol ac yn ddiogel.

Dim ond i ddarparu'r gofal deintyddol gorau ac anfon nodiadau atgoffa atoch yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Byddwn ond yn trosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol i ddeintydd, meddyg neu ysbyty arall os oes gennych broblem sy'n gofyn am eu sgiliau arbennig a bod angen i chi ymweld â nhw. Fyddwn ni ddim yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw un arall oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny, neu fod yn rhaid i ni ei rhoi am resymau cyfreithiol.

Os byddwch yn gadael y ddeintyddfa, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth. Wedi dweud hynny, byddwn yn ei chadw’n gyfrinachol ac yn ddiogel nes eich bod yn 25 oed (neu’n 26 oed os oeddech yn 17 oed pan ddaeth eich triniaeth ddiwethaf i ben), neu am 15 mlynedd ar ôl cwblhau’r driniaeth, pa un bynnag sydd hiraf.

Yna byddwn yn adolygu os gallwn ei ddileu, a phryd. Gallwch bob amser ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Gallwn ei throsglwyddo i ddeintydd neu feddyg arall ar eich cais, a gallwch hefyd ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon llythyrau neu gysylltu â chi mewn ffyrdd eraill os nad ydych bellach yn glaf yn y ddeintyddfa.

Rydym hefyd yn defnyddio teledu cylch cyfyng (camerâu) am sawl rheswm pwysig:

  • Er mwyn cadw'r ddeintyddfa’n ddiogel a diogelu ein pethau
  • Er mwyn sicrhau bod pawb – cleifion, staff ac ymwelwyr – yn ddiogel
  • Er mwyn atal ymddygiad drwg neu droseddau rhag digwydd
  • Er mwyn helpu i ddod o hyd i bobl a allai fod wedi torri'r gyfraith a'u dal
  • Er mwyn helpu yn y llys os oes angen i ni ddangos prawf

Mae'r lluniau a'r fideos o'r teledu cylch cyfyng (camerâu) yn breifat. Rydym yn sicrhau ein bod yn diogelu hawliau pawb ac ni fyddwn yn eu rhannu oni bai:

  • Bod yr heddlu neu'r llysoedd lleol yn gofyn amdanyn nhw i helpu gydag ymchwiliad neu ddal rhywun yn gwneud rhywbeth o'i le

Pan fyddwch yn cyrraedd 18 oed, bydd yr Hysbysiad o Breifatrwydd ynghylch sut rydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol yn newid i’r fersiwn ar gyfer oedolion. Mae’r fersiwn honno i'w gweld ar ein gwefan.

Os hoffech gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, megis cywiro gwall yn eich gwybodaeth neu roi copi o’ch gwybodaeth i rywun arall, cysylltwch â:

 John Vaughan
 The Village Dental Practice
 61 Heol Newydd, Sgiwen, Castell-nedd, SA10 6HA

E-bost: thevillagedentalpractice@gmail.com
Ffôn: 01792 814734

Chwefror 2026